Llanwrtyd
a’r
Cylch Roedd yr arweinlyfrau cynnar yma
yn awyddus iawn i ddenu ymwelwyr, ac weithiau’n gofyn cwestiynau fel hyn:
"Ym mha le arall gewch chi fynd mewn cwch mewn lle ac awyrgylch mor braf
a heddychlon â Llanwrtyd?" a "Ble arall gallwch
chi gymharu cwrt tenis i gynefin y tylwyth teg?" Mae’r hen adeiladau oedd ar yn adeg
yn denu cymaint o ymwelwyr i gymryd y dyfroedd yn oes Fictoria erbyn hyn
yn edrych yn drist, a byrddau dros
y ffenestri. Beth bynnag, mae’r dref a’r ardal yn dal i gynnig llawer
i ymwelwyr, gan gynnwys amgylchedd bendigedig!
Yfed y dwr
Pleserau
Dolecoed yn Oes Fictoria
Cyhoeddwyd
nifer o arweinlyfrau i deithwyr yn hwyr
yn oes Fictoria er mwyn helpu ymwelwyr i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd
oedd yn ehangu. Mae rhai esiamplau o’r rhain i’w gweld ar y dudalen hon
– maen nhw’n cyfeirio at Lanwrtyd.
Mae’r llun yma yn dod o arweinlyfr
i Lanwrtyd tua 1895.
Mae’n dangos adeiladau Ffynnon Dolecoed
yn y parc drws nesaf i Westy Dolecoed.