Llanwrtyd a’r Cylch
Yfed y dwr
  Ty Dolecoed, Llanwrtyd  
 

Mae’r engrafiad hwn yn dangos Ty Dolecoed, neu Gwesty Dolecoed fel y byddai’n ddiweddarach, tua 1890 pan roedd tref Llanwrtyd ar ei anterth fel tref ffynhonnau oes Fictoria.

 
Engrafiad o
oes Fictoria
o dy Dolecoed tua 1890
Dolecoed House
Wel, cawsom ni hwyl
ar ein gwyliau!
 

Roedd Ty Dolecoed yn agos i ffynnon Parc Dolecoed oedd yn cynhyrchu Mother and child on holidaydwr sylffwr pur mwy neu lai. Roedd y ffynnon leol yma yn un o’r prif resymau am dwf cyflym tref Llanwrtyd ar ôl dechrau’r gwasanaethau rheilffordd oedd yn golygu bod pobl yn gallu cyrraedd y Canolbarth yn hawdd. Roedd hysbys diweddarach ar gyfer Gwesty Dolecoed yn honni bod "Baddon sylffwr" ar gael yn y gwesty a hefyd mai "Gwesty enwog a hen a sefydlwyd yn y 17eg Ganrif yw Dolecoed".

Mae mwy o wybodaeth am ffynnon sylffwr anhygoel parc Dolecoed ar dudalen arall…

Merched bonheddig
oes Fictoria ar
eu gwyliau
yn Llanwrtyd
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"