Llanwrtyd
a’r
Cylch Roedd tref fach Llanwrtyd
yn un o grwp bach o drefi ffynhonnau yn y Canolbarth
oedd yn denu nifer fawr o ymwelwyr oedd wedi dod i ‘gymryd
y dyfroedd’. Mae’r ardal yn hardd iawn, ac yn
lle braf i gerdded yn y wlad, ac roedd hefyd yn cynnig pysgota, golff,
bowlio, croquet ac atyniadau eraill i’r ymwelwyr. Ond y brif reswm am
dwf sydyn Llanwrtyd o bentref bach i dref oedd y ffynhonnau
mwynol. Y
prif ffynhonnau oedd Dolecoed a Fictoria. Yn 1922, cafwyd hyd i un arall
yn Henfron, ar ôl uchafbwynt ffynhonnau
oes Fictoria. Y ffynnon fwyaf enwog yn yr ardal oedd y Ffynnon Ddrewllyd
yn Dolecoed. Mae’r ffynnon yn agos i Afon Irfon, ac yn cynnwys mwy o sylffwr
nag unrhyw ffynnon arall ym Mhrydain. Swlffwr sydd yn achosi’r aroglau
cryf ac a roddodd enw mor annymunol ond cywir i’r Ffynnon.
Yfed y dwr
Gwyliau
iach i bob oes Fictoria
Ar
ôl ehangu’r rheilffordd stêm, roedd yn llawer
haws i bobl oes Fictoria gyrraedd Llanwrtyd, ac roedd yn lle
gwyliau prysur iawn yn yr haf. Roedd llawer o deuluoedd yn dod ar y trên
o drefi diwydiannol cymoedd de Cymru,
ac o lefydd pell eraill hefyd. Clywir sôn am grwpiau o lowyr yn cyfarfod
ar y bont dros afon Irfon ac yn ffurfio corau i ganu er mwyn diddanu
ymwelwyr eraill.
Tynnwyd lluniau o’r bobl hapus
(efallai) yma wrth ymweld â’r ffynnon yn Llanwrtyd
a diod o ddwr Cymru yn eu dwylo!
ar gyfer ymwelwyr
i Lanwrtyd
Ar un adeg, roedd pobl yn credu bod y ffynnon yn wenwynig,
ond yn ystod blynyddoedd prysur ffynnon Dolecoed,
roedd pobl yn honni bod y dwr yn dda i’r arennau, yr
afu, y galon, gwynegon, ac i afiechydon y croen! Gallwch weld
llun o’r gwesty wrth ochr y ffynnon sylffwr yn Dolecoed ar dudalen arall
ar y wefan hwn.
Am le braf i gymryd gwyliau!