Llanwrtyd a’r Cylch
Yfed y dwr
  Y gerddoriaeth orau yn fyw o Lanwrtyd  
 

You Wrth edrych ar yr hen lun ar y dudalen hon, byddwch yn cael syniad da iawn o’r awyrgylch "gwyliau" Llanwrtyd holidaymakersyn ystod blynyddoedd prysur y ffynhonnau yn oes Fictoria. Tynnwyd y llun yn Llanwrtyd yn ystod egwyl yn yr adloniant a drefnwyd i’r ymwelwyr, fwy na thebyg yn gynnar yn y 1900au.
Mae’n debyg bod y pedwar dyn ar y platfform yn gantorion, oherwydd nid oes ganddynt ddim offerynnau heblaw’r piano.

Rhai o’r gynulleidfa
o’r llun isod
Digwyddiad cerddorol yn Llanwrtyd
tua 1901
Entertainers at the spa
 

Mae’n edrych yn debyg mai platfform pren dros dro yw’r ‘llwyfan’ ac mae’r gynulleidfa’n ymgynnull ar y llethrau gwelltog o dan y coed. Blynyddoedd hwyr oes Fictoria a blynyddoedd teyrnasiad Edward oedd anterth adloniant y neuaddau cerdd, ac roedd yr ymwelwyr yn nhrefi’r ffynhonnau ac ar lan y môr yn mwynhau clywed caneuon poblogaidd yr oes.

 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"