Llanwrtyd
a’r
Cylch Roedd dwr Ffynnon Dolecoed, yr hen
Ffynnon Ddrewllyd, bron iawn yn ddwr sylffwr
pur, ac roedd yn cynnwys lefelau uchel iawn o hydrogen
sylffwredig. Pan aethant ati i fesur y llif, roedd y ffynnon
yn cynhyrchu tua 4,500 galwyn bob
dydd. Roedd y dwr
sylffwr yn cyrraedd baddon Dolecoed trwy bibellau rwber caled,
gan ddefnyddio cwymp naturiol y tir.
Ar ôl cyrraedd y baddon, byddent yn cynhesu’r dwr i’r tymheredd angenrheidiol
i’w ddefnyddio at ddefnyddiau meddyginiaethol. Roedd Ystafell
Bwmpio Dolecoed hefyd yn gallu cynnig dwr o Ffynnon Chalybeate,
sef dwr oedd yn cynnwys halennau dur.
Roedd hyn yn amlwg yn rhoi "rhyw liw gwyrdd" i’r
dwr, ond "mae’n blasu’n hyfryd!" Doedd dim
oglau ar y dwr yma o gwbl – yn wahanol iawn i’r dwr sylffwr!
Yfed y dwr
Y
ffynnon dan sêl yn Dolecoed
Nid
oedd angen pwmpio’r dwr drewllyd, roedd
yn dod yn allan yn naturiol; a doedden nhw ddim yn storio’r dwr mewn tanciau
ychwaith. Roedd rhai yn meddwl fod y cyflenwad
o'r dwr arbennig yma bron yn ddiddiwedd.
Yn oes Fictoria rhoddwyd sêl ar y ffynnon gan ddefnyddio pedastl
crwn enfawr o farmor, ac roedd cerrig mosäig
yn addurno’r pedastl. Y rheswm am hyn oedd i gadw’r nwyau naturiol roedd
y ffynnon yn eu cynhyrchu, ac roedd yn ychwanegu at ddaioni’r dwr. Ar ben
y tanc roedd caead gwydr, ac wrth edrych trwy ddrych ar ongl uwchben y wal,
roedd ymwelwyr yn gallu gweld y nwyau’n byrlymu
drwy’r dwr.
Roedd rhai yn honni bod "Yr aparatws cynhesu a ddefnyddiwyd
yn y baddon mor wych fel ei bod yn bosibl cael baddon mewn dwr o unrhyw
dymheredd fel bo’r angen, heb leihau pwerau therapiwtig y dwr mwnau o
gwbl".
i gael gwydriad o lemonêd!