Llanwrtyd a’r Cylch
Yfed y dwr
  Llangamarch  
 

Dyma aelod arall o’r grwp o drefi ffynhonnau’r Canolbarth oedd yn boblogaidd gyda thrigolion oes Fictoria, oedd rhwng Llanwrtyd yn y gorllewin a Llanfair ym Muallt yn y dwyrain. Er fod Llangamarch yn llai na’r trefi eraill, roedd yn denu llawer o ymwelwyr i gymryd y dyfroedd a mwynhau amgylchiadau iach yr ardal.

Playing tennis
  Cammarch Hotel
Mae’r llun yma o arweinlyfr a gyhoeddwyd tua 1890, ac yn dangos Gwesty’r Camarch, eglwys y plwyf tu hwnt i’r gwesty, a’r Afon Irfon a’r bont.
 
Mae’r hysbys am y gwesty hwn yn sôn am y lles a geir o faddon mwyn oer!
Hotel advertisement
 

Yn debyg i Lanwrtyd, roedd llawer o’r ymwelwyr i’r ffynhonnau yn Llangammarch yn cyrraedd ar y trên o ardaloedd diwydiannol a phyllau glo cymoedd de Cymru. Roedd amgylchiadau gweithio llawer o’r bobl hyn yn ofnadwy, a’u hamgylchiadau byw ddim llawer gwell. Byddent mewn angen mawr o wyliau yn y mynyddoedd mewn awyr iach ac amgylchiadau hyfryd, a byddai hyn gymaint o fudd iddyn nhw a’u teuluoedd â ‘chymryd y dyfroedd’.

 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"