Llanwrtyd
a’r
Cylch Mae’r lluniau yma o lyfr oedd yn
plygu, yn dangos lluniau o Lanwrtyd o tua 1900. Mae’r lluniau’n cynnwys
y llyn hwylio, y parciau, y ffynhonnau,
y lawnt bowlio ac atyniadau eraill
y dref fach.
The Llyn
Abernant a Phafiliwn y Llyn. Yn ôl arweinlyfr i ymwelwyr
"mae’r llyn yng nghanol llwybrau main, yn
troi i fewn ac allan o’r coed" "Mae cyfleusterau hwylio gwych ar
gael, ac yn ystod yr haf, bydd cannoedd o ymwelwyr yn dod yma bob
dydd." Gyda lwc roedd y rhan fwyaf o ymwelwyr
oedd yn mynd i Lanwrtyd yn iach iawn cyn gadael, ar ôl yfed y dyfroedd
mwnau ac anadlu awyr iach yr ardal!
Yfed y dwr
Iechyd
da i bawb yn Llanwrtyd
Mae un ymwelydd i’r dref o adeg y lluniau yma, i’w weld yn ddigon hapus
yno. Tom oedd ei enw, ac anfonodd cerdyn post
yn dangos Llanwrtyd ac ar y cefn ysgrifennodd y neges fach yma: "How
be. Am in the Pink"