Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Dyddiau cynnar yr ysgolion lleol  
 

Mae’r tudalennau yma yn helpu dangos bywyd yn yr ysgol yn ystod blynyddoedd hwyr teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

 
 

Maen nhw’n defnyddio nodiadau o Lyfrau Log Ysgolion neu ddyddiaduron ysgolion lleol. Yn aml maen nhw’n rhoi llawer o wybodaeth inni am fywyd yn y cartref yn yr oes yna, yn ogystal ag arferion yn yr ysgol ei hunan.

Doedd y rhan fwyaf o blant ddim yn mynd i’r ysgol ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Byddai perchnogion tir cyfoethog yn trefnu dysgu eu plant adref, a byddai rhai masnachwyr yn anfon eu plant i ysgol breifat.

Victorian children
 

Roedd plant y bobl dlawd yn gorfod dechrau gweithio unwaith roedden nhw’n ddigon hen i ennill arian i’r teulu, a byddent yn colli gwersi er mwyn helpu gyda gwaith ar y fferm neu waith arall i’w rhieni.
Erbyn diwedd cyfnod Fictoria roedd ysgolion ar gael am ddim i bob plentyn, ac roedd yn rhaid i bob plentyn fynd i’r ysgol.

 
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 


.