Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Rhieni yn cadw plant adref rhag dal heintiau  
 

Ar ben absenoldebau oherwydd gwaith ar y fferm, Child in sickbed.neu helpu adref, y prif achos arall oedd yn cadw plant o’r ysgol oedd salwch. Roedd heintiau megis y pas, y frech goch, y frech wen, difftheria a heintiau marwol eraill yn gyffredin iawn mewn ysgolion yn oes Fictoria.
Roedd bwyd ac amgylchiadau byw nifer o deuluoedd yn ddrwg, a byddai salwch yn lledu drwy’r gymuned yn gyflym iawn fel mae’r esiampl hwn o Ysgol Abergwesyn yn dangos yn 1897...

29 Ionawr
1897
School diary entry
  Yn ôl y Llyfr Log –
29 Ionawr - "Several children have again been attacked with the sickness prevalent in the village, and are quite unable to attend"...
Esiampl nodweddiadol arall o Ysgol Llangamarch yn 1893 yw hwn...
 
20 Ionawr
1893
School diary entry
 

Mae’r nodyn yma yn dod o ddyddiadur...
20 Ionawr - "There has been an outbreak of Diptheria in the village of Llangammarch, and as there has been one fatal case, a great many parents kept their children at home for fear of infection..."
Roedd difftheria yn gyffredin iawn yn oes Fictoria, ac yn arwain at lid yn y gwddf. Roedd yn heintus iawn, ac yn achosi nifer o farwolaethau, ond erbyn hyn mae’n weddol prin.
Mae mwy o wybodaeth am salwch ac ysgolion ar y dudalen nesaf...

Marwolaeth yn rheulu, eto...
.

.