Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Mynd i’r dref i chwilio am waith...  
 

Mae’r nodiadau yma yn y Llyfrau Log yn dangos mor bwysig oedd y Ffair Hurio i gymunedau mewn ardaloedd gwledig. Roedd y ffeiriau yn cael eu cynnal yn y rhan fwyaf o drefi ddwywaith y flwyddyn ym mis Mai ac yn Nhachwedd. Roedd y ffeiriau yn cael eu cynnal yn sgwâr y farchnad fel arfer, ac roedden nhw’n debyg i farchnad dda byw, ond y gwahaniaeth mawr oedd mai gwaith ac nid anifeiliaid oedd ar werth !
Byddai pobl oedd yn chwilio am waith, gan gynnwys pobl ifanc oedd newydd adael yr ysgol, yn cyfarfod â chyflogwyr lleol, gan gynnwys ffermwyr ac asiantau i’r stadau mawr oedd yn perthyn i foneddigion yr ardal.
Roedd yn rhaid i unrhyw un oedd wedi’i hurio fel gwas oedd yn byw i fewn am hyd at flwyddyn am swm o arian, aros yn y gwaith am y cyfnod hwnnw.
Roedd llawer o weithwyr yn methu â dianc cyflogwyr drwg ac amodau gwaith ofnadwy nes diwedd eu cytundeb !

Hiring Fair
9 Mai
1884
School diary entry
14 Tachwedd
1890
School diary entry
9 Tachwedd
1894
School diary entry
 

Mae’r tri nodyn yma o ddyddiadur Ysgol Garth i gyd o flynyddoedd gwahanol -
9 Mai 1884 - "Attendance very low, owing to the hiring fairs held in the surrounding towns"...
14 Tachwedd 1890 - "Attendance not so good, owing to the Hiring Fair on Wednesday at Garth, and consequent change of servants".
9 Tachwedd 1894 - "Monday next is the Garth Hiring Fair. School will be closed".
Byddai’n ffeiriau hurio yn denu nifer fawr o bobl i’r trefi yn ystod cyfnod Fictoria, ond daeth y modd yma o gael hyd i waith yn llai pwysig ar ôl blynyddoedd cynnar y 1900au.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanwrtyd
.

.