Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Beth yw eich barn, Mr Arolygwr ?  
 

Roedd adroddiadau Arolygwyr Ysgolion ar ganlyniadau arholiadau ysgolion yn oes Fictoria yn cael eu copïo i’r Llyfrau Log swyddogol. Mae’n ddiddorol eu darllen erbyn heddiw gan eu bod yn tynnu sylw at y gwersi oedd yn bwysig y pryd hynny.
Ar ben y rhestr roedd yr hen ffefrynnau - darllen, ysgrifennu a mathemateg (rhoddwyd enw’r tri "R" ar y rhain gan rywun oedd yn methu â sillafu !).
Mae’r adroddiad yma ar arholiadau yn dod o Ysgol Llangammarch yn 1891...

 
22 Ebrill
1891
School diary entry Yn ôl yr adroddiad...
"Handwriting was good and the Spelling very fair. The Arithmetic, however, except in the second standard was poor and unintelligent. Most of the children examined in this subject failed to pass the examination."
 

"Mental Arithmetic was practically a failure, so was the attempt to add up columns of pounds, shillings and pence. Pretty fair intelligence was on the whole shown in English. The Needlework was very fair. Geography was only moderate. The Singing by Note was not good enough to merit the recommendation of the higher grant. More attention should be given to Reading and Numbers in the Infant Class"...

Roedd gwneud symiau arian ychydig yn anoddach pan roedd 4 ffarddin mewn ceiniog, dau ddimai mewn ceiniog, 12 ceiniog mewn swllt, deuswllt a chwe cheiniog mewn hanner coron, ac ugain swllt mewn punt ! Ar ben hyn oll, roedd ginis hefyd !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanwrtyd