Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Casgliad i blant newynog  
 

Fe fydd Llyfrau Log ysgolion yn aml yn cyfeirio at ddigwyddiadau tu hwnt i’r ysgol a’r gymuned leol.
Mae’r esiampl hwn o 1898 o Ysgol Garth yn dangos bod pobl leol ag ychydig iawn o arian i sbario, yn gwneud eu gorau i helpu rhai oedd mewn sefyllfa gwaeth na nhw eu hunain...

20 Mai
1898
School diary entry

20 Mai - "Made a collection among the children for children starving in Rhondda Valley owing to the colliers strike - amount realized ten shillings".
Roedd amgylchiadau gwaith glowyr yn ofnadwy ac yn beryglus iawn, ac roedd y cyflog yn isel hefyd. Roedd y streic yn 1898 yn ne Cymru wedi parhau am rwy 6 mis nes roedd diffyg arian yn golygu bod y glowyr yn gorfod rhoi’r ffidl yn y to er mwyn bwydo eu teuluoedd.
Erbyn heddiw, rydym wedi hen arfer gweld lluniau o ddigwyddiadau ledled y byd yn fyw ar y teledu. Doedd dim teledu i blant yn oes Fictoria, ond byddent weithiau yn cael gwefr o weld lluniau ar y wal trwy Lantern Hudol ! Daw’r darn yma o ddyddiadur Ysgol Llangamarch yn 1882 ...

Victorian coal mine
20 Mai
1898
School diary entry
 

Mae’r nodyn yn y Llyfr Log yn dweud –
"On Wednesday evening there was a Magic Lantern entertainment for the children in school".'Magic Lantern' projector
Byddai’r lluniau fwy na thebyg yn cynnwys golygfeydd o lefydd yn Affrica a’r India oedd ar y pryd yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig, ac o anifeiliaid o wledydd eraill. Roedd y pynciau hyn i gyd yn boblogaidd ar gyfer sleidiau yn oes Fictoria.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanwrtyd
.

.

Mae’r
Lantern
hudol
a welir yma yn Amgueddfa Brycheiniog
yn Aberhonddu.