Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Dim gwersi diolch. ‘Dwi jyst yn edrych...  
 

O edrych ar y cofnodion swyddogol heddiw, mae agwedd hamddenol plant a rhieni tuag at fynd i’r ysgol yn oes Fictoria yn anhygoel. Mae esiampl dda iawn o’r agwedd yma yn nyddiadur Ysgol Garth yn 1877...

 
10 Awst
1877
School diary entry
 

Mae’r nodyn yn y Llyfr Log yn darllen fel hyn –
10 Awst - "Admitted one boy this week. Attendance slightly better than last week. Removed one boy's name (Thomas Jones) from register - he only attended one day, being curious as to the interior of a Schoolroom".
Mae llawer (a llawer a llawer iawn...) o resymau (neu esgusion) am absenoldeb plant o’r ysgol yn y Llyfrau Log. Mae hwn hefyd yn dod o Ysgol Garth...

 
20 Rhagfyr
1889
School diary entry
 

Mae’r nodyn nesaf o’r flwyddyn 1889...
20 Rhagfyr
- "Attendance reduced - Xmas poultry markets held at Builth no doubt the cause, children help in plucking geese"...
Roedd hwn yn achos anghyffredin am absenoldeb, ond roedd llawer o waith tymhorol oedd yn mynd â’r plant o’r ysgol. Yn aml iawn byddai rhieni yn annog eu plant i wneud y gwaith achos eu bod yn mynd i gael eu talu ychydig o geiniogau byddai’n gwneud gwahaniaeth i incwm teuluoedd tlawd iawn. Mae mwy o esiamplau ar y dudalen nesaf...

Rydyn ni'n brysur iawn yn nhref...


.