Llanwrtyd
a’r
Cylch Roedd ysgolion
gwledig yn oes Fictoria wedi hen arfer ag effaith
y cynhaeaf a chneifio ar absenoldeb
plant bob blwyddyn. Mae’r esiamplau yma i gyd o’r cyfnod
1895 – 1897,
a gyda nhw mae sylwadau’r athro tebyg i hyn "among
the reasons given me for absence". Yn ôl i ddewislen
ysgolion
Llanwrtyd .
Bywyd ysgol
Dychryn
brain a lladd moch...
Ond roedd llawer o bethau eraill i’w gwneud ar y fferm oedd yn cadw plant
i ffwrdd ar adegau gwahanol.
Mae’r esiamplau yma i gyd wedi dod o Lyfrau Log o flynyddoedd amrywiol
sydd yn cwyno am ffigurau absenoldeb. Maen nhw’n nodweddiadol
o’r rhan fwyaf o ysgolion gwledig, ond mae’r rhai hyn i gyd o Ysgol
Garth...
1895-97
Dyma rai o’r esgusion
"minding cows", "fern
cutting", "raising potatoes",
"scaring crows", "pulling
turnips", "mowing thistles",
"hauling out manure", and "pig-killing".
Roedd y rhan fwyaf o’r tasgau hyn
yn bwysig iawn i ffermwyr lleol ar adeg pan nad oedd peiriannau
i arbed gwaith ar gael. Mae’r hen
engrafiad ar y dde yn dangos bachgen
yn defnyddio ratl swnllyd i gadw’r
adar draw o’r þd sy’n aeddfedu
yn y caeau yn y cefndir. Roedd llawer o deuluoedd yn y wlad yn cadw mochyn,
a’r drefn arferol oedd lladd y mochyn tua mis Rhagfyr. Byddai hwn yn ddigwyddiad
mawr i’r teulu cyfan, a doedd y plant ddim eisiau colli’r profiad ! Roedd
y cig mochyn hefyd yn golygu gwell bwyd am dipyn !