Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Dim gwres ym mis Tachwedd  
Drawing by
Davena Hooson
Busnes caled oedd mynd i’r ysgol yn y gaeaf yn oes Fictoria. Roedd yn rhaid i nifer o blant o ardaloedd gwledig gerdded milltiroedd i’r ysgol beth bynnag fo’r tywydd, ac yn aml roedd yn rhaid iddynt gerdded ar hyd llwybrau anwastad ar draws y mynyddoedd. Ac ar ôl cyrraedd yr ysgol yn aml iawn, byddai mor oer tu fewn ag yr oedd tu allan ! Mae’r darn yma o ddyddiadur Ysgol Llangamarch yn 1895... Walking through snow.
1 Tachwedd
1895
School diary entry
 

Mae’r nodyn o’r Llyfr Log yn dweud –
1 Tachwedd - "The weather continues to be bitterly cold and the fact that there is no fire in the school makes it impossible to expect a good attendance. Coal should have been provided for the school early in October and a fire should be lit every morning since the beginning of last month..."
Roedd llawer o rieni yn cadw plant bach adref am eu bod yn ofni y byddent yn dal clefyd ar ôl gwlychu ar eu ffordd i’r ysgol a gorfod aros yn oer ac yn wlyb trwy’r dydd
.
Yn ôl dyddiadur Ysgol Garth yn 1881 "Could not use copy books the first two days, the ink being frozen".
Hefyd, ysgrifennodd yr athro - "The Board should supply a stove for warming the room, as I could not keep the children properly warm and complaints have been made". Nid yw’n syndod mewn gwirionedd !
Mae mwy am broblemau tywydd oer yn yr ysgolion lleol ar y dudalen nesaf...

Mae'n rhy oer yn gafael y nodwydd, miss...
.
.

Cold child at school.
Heddiw roedden ni’n dysgu am fywyd yr Esgimo.