Llanwrtyd a’r Cylch
Bywyd ysgol
  Mae’n anodd gwnïo â’ch bysedd wedi rhewi…  
 

Ar wahân i ddiflaster oerfel dychrynllyd yn yr ysgol, roedd diffyg gwresogi derbyniol yn y gaeaf yn achosi problemau i’r merched mewn dosbarthiadau gwnïo.
Roedd y gwersi hyn yn bwysig iawn i ferched oes Fictoria, ac roedd yn rhaid iddynt wneud ffedog ac eitemau eraill, a gwnïo samplydd yn barod ar gyfer arholiadau’r arolygwr Ysgolion. Mae’r nodiadau yma o ddyddiadur swyddogol Ysgol Abergwesyn yn 1895 yn dangos nad oedd yn hawdd gwnïo yn iawn os oedd eich dwylo bach wedi rhewi...

Dyma ddarn o samplydd merch ifanc, a gynhyrchwyd yn 1865. Mae hwn ymysg nifer o eitemau o oes Fictoria mewn arddangosfa yn Amgueddfa Sir Faesyfed
yn Llandrindod.
7 Ionawr
1895
School diary entry
8 Chwefron
1895
School diary entry
 

Mae’r darnau yma o Lyfr Log yn dweud –
7 Ionawr - "Admitted one new scholar. The girls had needle-work this afternoon (Friday) instead of Tuesday, their hands being so very cold..."
8 Chwefron - "The children could hardly do any slate work it being so cold, and the girls could hardly do any needlework".
O leiaf roedd y plant yn cyrraedd yr ysgol ar y dyddiau hynny. Yng nghanol mis Ionawr yn y flwyddyn 1895 ysgrifennodd yr athro - "The snow was so deep that the parents were afraid to send the children through it in case they should catch cold or lose their way".
Mae bywyd ychydig yn haws i blant heddiw, ond maen nhw’n dal i gwyno !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanwrtyd
.

.