Tref-y-clawdd a'r cylch
Tloty'r Undeb
  Gwario llai i helpu’r tlawd  

Am flynyddoedd lawer roedd arian a godwyd yn lleol gan Dreth y Tladion, a gasglwyd gan bobl y plwyf yn cael ei ddefnyddio i gynnal pobl dlotaf yr ardal, gan gynnwys yr hen a’r sâl. Roedd yr arian yn eu cynorthwyo i aros yn eu cartrefi neu lety, a’r enw a roddwyd ar y system yma o ofalu am y tlawd oedd 'Cymorth Allanol'.
Ond roedd yna lawer o gwynion ynglyn â chost treth y tlodion, ac roedd tirfeddianwyr cyfoethog ymysg y rheini oedd yn mynnu cael Workhouse inmatesffordd ratach o ddelio gyda’r tlawd. Daeth hwn gyda Deddf Seneddol newydd yn 1834 wnaeth orfodi plwyfi i gyfuno gyda’i gilydd yn Undebau Deddf y Tlodion ac adeiladwyd tlotai mawr ar gyfer yr ardal gyfan. Roedd y rhain fwy neu lai fel carchardai gyda waliau llwm, gwelyâu caled, ac ychydig iawn o fwyd. Roedd ofn mawr ar bobl y byddent yn cael eu hanfon i’r tlotai newydd yma – a phwy allai eu beio am hynny ?
Gallwch gael gwybod mwy am y tlotai ym mhlwyfi Undeb Deddf y Tlodion ar y tudalennau yma...

Nid oes gennym gofnodion o dloty Tref-y-clawdd
o gyfnod cynnar oes Fictoria.
Edrychwch ar y tudalennau ar Lanfyllin er mwyn cael gweld mwy ynglyn â bywyd yn y tloty yn ystod y blynyddoedd cynharaf.
   
   
   
   
   
 
 
 

Ewch i ddewislen Tref-y-clawdd
.