Tref-y-clawdd
Tloty'r Undeb
  O dloty i ysbyty  

Adeiladwyd tloty cyntaf Tref-y-clawdd tua 1792 dim ond ar gyfer pobl dlawd y dref, felly adeilad eithaf bychain ydoedd.
Pan gafodd Deddf y Tlodion 1834 ei phasio gan y senedd, daeth Tref-y-clawdd yn ganolfan i Undeb Deddf y Tlodion newydd, sef tua 16 plwyf, gan gynnwys rhai o gymunedau ar draws y ffin yn Lloegr sef Swydd Amwythig a Swydd Henffordd. Roedd hyn yn golygu bod angen adeilad llawer iawn mwy, felly cafodd y tloty gwreiddiol ei wneud llawer iawn mwy a hynny ar yr un safle.
Mae’r darn bach yma o fap (dde gwaelod) wedi dod o fap Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn 1900, a gallwch weld lle y mae prif adeiladau’r tloty (i’r chwith o’r seren goch) ym mhen deheuol y dref.

 
Tloty Undeb
Tref-y-clawdd
Knighton workhouse Map showing workhouse  
  Map showing workhouse Gallwch weld tloty Undeb
Tref-y-clawdd yn y ffotograff (chwith uchod), sydd yn fwy na thebyg yn dyddio o ddechrau’r 1900au. Mae’n nodweddiadol o adeiladau tlotai oes Fictoria oherwydd eu bod yn edrych yn sobor iawn, ac yn debyg iawn i garchar !
 
 

Mae’r map mwy o faint uchod yn dangos pa mor fawr oedd adeiladau’r tloty newydd wedi iddynt gael eu hehangu i ddal bron i 120 o drigolion.
Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 symudwyd y bobl oedd yn byw yn y tloty allan, a defnyddiwyd yr adeilad fel ysbyty ar gyfer milwyr oedd wedi’u hanafu. Mae’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw fel Ysbyty Tref-y-clawdd.

Yn ôl i ddewislen tloty Tref-y-clawdd
.