Tref-y-clawdd Bwrdd Gwarcheidwaid
Tref-y-clawdd oedd yn gyfrifol am y tloty a’r system o gymorth allanol
yn yr ardal. Tirfeddianwyr, ynadon, masnachwyr, eglwyswyr ac aelodau blaenllaw
eraill yn y gymuned oedd yn aelodau o Fyrddau’r Tlodion.
Mae’r
darn yma o’r Llyfr Cofnod swyddogol
yn darllen -
Tloty'r Undeb
Arthur
yn dysgu sut i wneud esgidiau
Un o’u dyletswyddau oedd i wneud penderfyniadau ynglyn â dyfodol plant
sy’n ddigon hen i adael y tloty, fel ag yn yr enghraifft yma o dloty
Tref-y-clawdd yn 1902...
1902
10 Gorffennaf -
"The workhouse Master laid before the Guardians a proposal for the
apprenticeship of Arthur Constable aged 14 years now in the house to be
apprenticed to Mr E J Edwards as a boot manufacturer for five years and
it was ordered that the lad be sent for a month on trial an the terms
laid in his letter".
Roedd
yn arfer cyffredin i anfon y bechgyn gorau a mwyaf dibynadwy allan o’r
tloty i ddod yn brentis ac i ddysgu
crefft dda. Yn y blynyddoedd cyn
hynny fe fyddent wedi cychwyn yn llawer iawn iau na 14 mlwydd oed.
Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn sef 1902
aeth Thomas Moyle i ffwrdd i’w hyfforddi’n bobydd, ond roedd Swyddog
Meddygol y tloty’n pryderu am ei iechyd oherwydd roedd yn "distinctly
tuberculous" a "would
be better for some occupation that would take him out of doors".
Roedd y math yma o bryder am ffyniant y tloty yn dangos y newidiadau
enfawr yn y driniaeth yr oedd y bobl dlawd yn ei gael
ers cyflwyno deddf y tlodion yn 1834.