Tref-y-clawdd
Tloty'r Undeb
  Pethau pleserus i ddathlu’r brenin newydd  

Roedd y bwyd a’r amodau byw yn nhlotai Undeb Deddf y Tlodion yn ofnadwy am flynyddoedd lawer. Yn y rhan fwyaf o achosion dim ond ar Ddydd Nadolig y cafwyd rhywbeth ychwanegol, pan oedd trigolion y tloty yn cael pryd o fwyd ychydig bach yn well.
Dyma enghraifft arall o’r Llyfr Cofnod swyddogol sy’n cofnodi cyfarfodydd a gynhaliwyd yn nhloty Tref-y-clawdd yn 1902. Erbyn y dyddiad yma roedd pethau wedi gwella i’r bobl anffodus oedd yn byw yno, ac roedd anrhegion yn cael eu rhoi’n amlach. Mae’r darn yma’n cyfeirio at driniaeth arbennig i nodi coroni’r Brenin Edward VII, (dde) yn dilyn marwolaeth y Frenhines Fictoria...

King Edward VII
12 Mehefin
1902
Minute book entry
Mae’r darn yma o’r Llyfr Cofnod yn darllen -
"
Coronation of His Majesty the King"
"Mr Bache in pursuance of notice proposed that each adult pauper do have an extra grant of a shilling and each child sixpence with which to commemorate the coronation of the King, and also that the Inmates of the workhouse do have an addition to the dietary on that day in the discretion of the workhouse master, and it was unanimously resolved that the motion be agreed to".
Workhouse treats.
 

Roedd Mr Bache yn un o aelodau’r Bwrdd Gwarcheidwaid oedd yn gwneud penderfyniadau ynglyn â phobl oedd yn cael eu cynnal gan Dreth y Tlawd tu fewn a thu allan i’r tloty. Fe wnaethant gytuno ar roi arian ychwanegol i’r tlodion i gyd ac "ychwanegiad i’r diet" ar gyfer pobl oedd yn byw yn y tloty. Byddai hyn yn golygu pethau ychwanegol megis cacennau a gwell prydau bwyd.
Mae "In the discretion of the workhouse master" yn golygu y byddent yn gofyn iddo ddewis y mathau o bethau ychwanegol yr oedd trigolion y tloty yn eu cael.

Yn ôl i ddewislen tloty Tref-y-clawdd
.