Tref-y-clawdd
Tloty'r Undeb
  Dim ysgol – dim arian !  

Mae yna lawer o enghreifftiau yng nghofnodion swyddogol ysgolion Fictoraidd ynglyn â thalu ffioedd ysgol plant y 'tlodion' oedd yn dod o deuluoedd tlawd iawn. Byddai 'Relieving Officer' yr ardal yn talu am ysgol y plant o’r trethi lleol am gyhyd ag yr oedd y plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd.
Daeth y rhan fwyaf o ffioedd ysgol i ben tua 1891 ond roedd awdurdodau dal yn gallu gwneud yn siwr fod plant tlawd yn parhau gyda’u gwersi trwy atal yr arian a dalwyd i’w teuluoedd pe na baent yn eu hanfon i’r ysgol yn ddigon aml.
Mae hwn wedi dod o Lyfr Cofnod Undeb Tref-y-clawdd ar gyfer 1901...

 
12 Rhagfyr
1901
Minute book entry
 

Mae’r darn yma’n darllen -
"The Clerk read a letter from Thomas Evans, Schoolmaster Glanithon, complaining that Mrs Jones of the Canteen sent her three children very irregular to School, and the Clerk was directed to write [to] Mrs Jones and inform her that unless the children were sent regular to school the Outdoor Relief would be stopped".

Arian oedd 'Outdoor Relief' a roddwyd i bobl dlotaf yr ardal ar gyfer bwyd a dillad er mwyn iddynt allu byw a sefyll yn eu cartrefi neu lety yn hytrach na mynd i’r tloty. Bwriad 'Deddf y Tlodion' 1834 creulon oedd dod â hyn i ben a gorfodi’r tlawd i mewn i’r tlotai mawr oedd yn debycach i garchardai, ond roddwyd caniatâd i lawer fyw yn rhywle arall yn ddiweddarach.

Yn ôl i ddewislen tloty Tref-y-clawdd
.