Tref-y-clawdd a'r cylch
Bywyd ysgol
  Mynd i’r ysgol - weithiau  
 

Mae’r tudalennau hyn yn cynorthwyo i ddangos sut beth oedd hi i fod yn yr ysgol ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Maent yn defnyddio enghreifftiau o’r Llyfrau Cofnod swyddogol neu ddyddiaduron ysgolion lleol, a gall y rhain ddweud llawer wrthym am fywyd yn yr ardal y dyddiau hynny.
Nid oedd y rhan fwyaf o blant yn mynd i’r ysgol ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Byddai tirfeddianwyr cyfoethog yn addysgu eu plant adref, a byddai rhai o fasnachwyr yr ardal yn anfon eu plant i ysgolion preifat.
Roedd plant y tlawd yn gorfod mynd i weithio cyn gynted ag yr oeddynt yn ddigon hen i ennill arian i’r teulu. Erbyn diwedd y cyfnod Fictoraidd roedd ysgolion rhad ac am ddim yn cael eu darparu a daeth yn orfodol i blant fynd i’r ysgol.

Victorian children
   
   
   
   
   
   
 
 
 

Ewch i ddewislen Tref-y-clawdd
.