Tref-y-clawdd a'r cylch
Bywyd ysgol
Mae’n rhewi yn y fan yma, athro !  
  Roedd mynd i’r ysgol yn ystod cyfnod Fictoria yn gallu bod yn fusnes anodd iawn. Roedd yn rhaid i lawer o blant gerdded sawl milltir ar hyd llwybrau garw mewn tywydd gwael. Ac yn aml iawn yn y gaeaf, pan fyddent yn cyrraedd, roedd yr ystafell ddosbarth mor oer ag yr oedd y tu allan !
Yn aml iawn roedd yn rhaid i’r plant eu hunain gynnau tân yn yr ystafell ddosbarth. Ysgrifennodd pennaeth Ysgol Fabanod Tref-y-clawdd ar ddiwedd mis Hydref 1873 "Sent Alice Davies home for the morning as a punishment, for coming late to school and not having the fire lit". Ac ysgol Fabanod oedd hon !
Mae’r ddwy enghraifft yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol Llangynllo yn ystod gaeaf 1895...
Cold child at school
29 Ionawr
1895
School diary entry

29 Ionawr - "The weather continues very cold the thermometer stands now at 32 [degrees Fahrenheit] with a good fire in the room and the instrument is placed a long distance from the windows or any draught".

 
8 Chwefror
1895
School diary entry
 

8 Chweefror - "The frost continues with great severity. The Ice in bowlthermometer stands now 12 o'clock at 28, two degrees below freezing. Some water which I placed in a dish in the room at the beginning of this a.m's [morning's] school has frozen".
Efallai ei bod yn wers ddefnyddiol i’r plant ynglyn â sut y mae dwr yn rhewi – er yn fwy na thebyg roedd ganddynt syniad go dda yn barod !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Tref-y-clawdd
.

.