Tref-y-clawdd
a'r cylch Gan fod y rhestrau
yma fel arfer yn cynnwys llawer o anifeiliaid, adar, pryfed, planhigion
a physgod, roedd yna amrywiaeth eang o bynciau astudio
natur yn dod i mewn i’r gwersi. Byddai’r athro yn cynnwys rhai
ffeithiau nodweddiadol ynglyn â gwyddoniaeth
pan yn
sôn am y tywydd neu haearn. Byddai "Gwrthrychau"
nodweddiadol eraill yn cynnwys cludiant,
megis yr orsaf reilffordd, a gwahanol fasnachau
a diwydiannau.
Bywyd ysgol
Dewiswch ‘wrthrych’ a siaradwch amdano...
Roedd y
"Wers Wrthrych" yn digwydd yn aml mewn llawer o ysgolion Fictoraidd. Roedd
gan athrawon restr o bynciau i sgwrsio amdanynt yn y dosbarth, ac er bod
y rhestrau hyn i’w gweld yn rhyfedd iawn i ni heddiw roeddynt yn cynnwys
llawer o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae’r enghraifft yma’n rhan o restr hir o Lyfr Cofnod Ysgol
Genedlaethol Llangynllo yn 1897.
Roedd gan athrawon set o gardiau gyda lluniau a ffeithiau ynglyn â’r gwahanol
bynciau ar y rhestr, oedd yn newid bob blwyddyn.
1897
Mae’r rhan yma o’r rhestr o’r Llyfr Cofnod
yn darllen -
March 15th - "List
of Object Lessons for the Infants Dept".
1....The
Lion
2....The Dog
3....The Horse
4....The Cat and Kittens
5....The Ostrich
6....The Eagle
7....The Duck16....The
Spring
17....The Summer
18....The Autumn
19.....The Winter
20.....Growing Plant
21.....Ironstone and Iron
22.....Basket"
Cofiwch na fyddai’r rhan fwyaf o athrawon, heb sôn am blant wedi gweld
llewod nac eryrod nac estrys. Byddai syrcas deithio oedd ag anifeiliaid
gwyllt yn ymweld â’r ardaloedd hyn o bryd i’w gilydd, ond dim
ond yn y dinasoedd mawrion y byddai sw i’w gael yn ystod cyfnod Fictoria.
Nid oedd yna raglenni bywyd gwyllt ar y teledu, oherwydd doedd yna ddim
teledu !