Tref-y-clawdd a'r cylch
Bywyd ysgol
Digwyddodd damwain ofnadwy heddiw  
  Fel y gallwch weld ar dudalennau eraill, roedd yna nifer o farwolaethau trasig yn digwydd o ganlyniad i afiechydon yn cael eu hadrodd yn y Llyfrau Cofnod. Yn drist iawn, roedd ysgolion hefyd yn colli plant o ganlyniad i ddamweiniau, oherwydd ychydig iawn o reolau diogelwch oedd yn bodoli yn ystod cyfnod Fictoria.
Mae’r enghraifft yma’n dod o Ysgol Genedlaethol Heyope yn 1891...
 
3 Rhagfyr
1891
School diary entry

Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod yn darllen -
3rd December - "A terrible accident happened today at the crossing, over the line, to Treluggas. One of the school-children, Beatrice Gough, returning from dinner, was caught by the express train and killed, being literally cut to pieces".

Cafwyd adroddiad trist ac anarferol iawn o Ysgol Genedlaethol y Bechgyn Tref-y-clawdd yn 1874. Byddai ymweliad swyddogol â’r dref gan aelod pwysig o’r bonedd yn ystod oes Fictoria yn golygu y byddai yna bared o gerbydau gyda milwyr yn eu gwisgoedd hardd yn marchogaeth wrth eu hymyl. Byddai’r olygfa hon nad oedd yn digwydd yn aml iawn yn siwr o ddenu’r plant lleol...

Railway tracks
29 Ionawr
1874
School diary entry
 

29th January - "As a great many boys stayed away this afternoon to see the entry of the Marquis of Hartington into town..."
Gallwch weld o’r darn a ysgrifennwyd yn Llyfr Cofnod yr ysgol y diwrnod canlynol yr hyn a ddigwydd pan ddaeth Ei Arglwyddiaeth i Dref-y-clawdd. Gallwch weld hyn ar y dudalen nesaf...

Damwain drasig pan ddaeth y Marcwis i’r dref...
.

.