Tref-y-clawdd
a'r cylch "... One
other boy (Phillips,
1st Class) was also injured, but only slightly".
Mae’n ymddangos bod y ceffylau oedd
yn tynnu’r cerbyd wedi’u harwain i ffwrdd pan gyrhaeddodd y Marcwis Tref-y-clawdd,
a thynnwyd y cerbyd gan ddynion lleol â rhaffau. Digwyddodd y ddamwain
i lawr y llethr o bont yr afon. Yn fwy na thebyg roedd bechgyn yr ysgol
eisiau helpu, a chael bod yn agos at yr hyn oedd i’w weld, digwyddiad
cyffrous iawn mewn tref fechan. Ond digwyddiad trasig
iawn a fu i’r ysgol yma yn Nhref-y-clawdd. Adroddir bod y Marcwis wedi
ymweld â’r bobl a anafwyd y diwrnod wedyn.
Bywyd ysgol
Lladdwyd
o dan gerbyd Ei Arglwyddiaeth
Roedd Marcwis
Hartington yn ddyn pwysig iawn yng nghymdeithas Fictoraidd. Roedd
yn y Senedd am flynyddoedd lawer gan gynnwys dau gyfnod fel AS Sir Faesyfed.
Roedd y Frenhines Fictoria yn awyddus iddo ddod yn Brif Weinidog. Ond gwrthododd.
Yn ddiweddarach daeth yn 8fed Dug Swydd
Dyfnaint ac etifeddodd ystâd anferth
Chatsworth.
Byddai ei orymdaith i mewn i Dref-y-clawdd ym mis Ionawr 1874 wedi bod yn
olygfa drawiadol, ac roedd llawer o fechgyn o Ysgol
Genedlaethol y Bechgyn Tref-y-clawdd
yno i wylio a chynorthwyo. Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod yr ysgol -
1874"A
melancholy occurrence took place yesterday in connection with the Marquis'
entry. As some of the boys were assisting in drawing the carriage containing
hisLordship
and others, the vehicle over-ran them in going down an incline, and so caused
the death of one boy (Robert Morris, 3rd Class) by the wheel passing over
him..."