Tref-y-clawdd
a'r cylch Codwyd yr arian
mwyaf am y plant sef 6d (chwe cheiniog) yr
wythnos ar ffermwyr. Roedd "Artezans"
neu grefftwyr yn fasnachwyr medrus
megis teilwyr a gwehyddion. Y gweision oedd yn talu’r lleiaf sef swm o
ddwy geiniog, gan y byddai’r rhan fwyaf o weision yn gweithio i ffermwyr
ac yn ennill ychydig iawn iawn. Parhaodd y system ffioedd neu "geiniog
ysgol" yn y rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd tan 1891
pan gyflwynwyd addysg rhad ac am ddim gan y llywodraeth. Cofnodwyd hyn
yn Llyfr Cofnod Ysgol Heyope...
4
Medi - "The Managers accepted free
education and no fees were charged for this week".
Bywyd ysgol
Y gost o fynd i’r ysgol
Roedd prinder
arian yn bryder mawr i lawer o deuluoedd yn ystod cyfnod Fictoria. Roedd
yn rhaid iddynt dalu i’w plant fynychu’r
ysgol, a thra roeddynt yn yr ysgol nid oeddynt yn gallu cynorthwyo ar y
fferm nac ennill arian trwy wneud gwaith
fan hyn a fan draw. Pan agorwyd Ysgol Genedlaethol
Heyope yn 1866, ysgrifennwyd
rhestr o reolau’r ysgol ar flaen y Llyfr Cofnod. Roedd yr ail reol yn sôn
am dalu ffioedd ysgol...
1866"Farmers
to Pay
per week................6d
Artezans................4d
Labourers..............2d
These payments in advance
each Monday morning".
1891
1891
18 Medi -
"Attendance slightly lower than last week, but it shows a vast improvement
since the abolition of fees; whether due to that cause time will show..."
Er nad yw’r taliadau hyn yn ymddangos yn rhyw lawer
i ni heddiw roedd yn rhyddhad gwirioneddol i lawer o deuluoedd
tlawd pan ddaethant i ben. Roedd rhieni’n llawer iawn mwy parod
i anfon eu plant i’r ysgol yn rheolaidd pan oedd y gwersi am ddim.