Tref-y-clawdd a'r cylch
Bywyd ysgol
Wedi mynd i’r ffair, i’r syrcas a’r rasys  
  Roedd ceisio cynyddu nifer y plant oedd yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn hunllef gwirioneddol i athrawon oes Fictoria. Roedd llawer ohonynt oedd yn absennol yn cynorthwyo eu rhieni gyda gwaith fferm ar adegau prysur megis y cynhaeaf, ond roedd yna hefyd lawer o bethau eraill i’w gwneud oedd yn llawer iawn mwy o hwyl na mynd i’r ysgol...  
15-17
Mawrth
1874
School diary entry "15th - Holiday for Races.
..16th - Holiday for Fair.
..17th - Holiday for Circus".

Mae’r enghraifft a welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Fabanod Tref-y-clawdd yn 1874. Roedd yr ysgolion yn gwybod nad oeddynt yn gallu cystadlu gyda ffeiriau lleol ac atyniadau eraill, felly yn syml iawn roeddynt yn cau’r ysgol ac yn rhoi gwyliau i’r plant. Roedd yr athrawon yn fwy na thebyg yn mynd yno hefyd !
Mae’r ddwy enghraifft a welwch chi yma wedi dod o Ysgol Ferched Genedlaethol Tref-y-clawdd ym mis Awst 1898. Maent yn nodweddiadol o’r rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd, fel y gallwch weld o’r ardaloedd eraill sydd ar ein gwefan.

Empty classroom
8 Awst
1898
School diary entry "More than half the girls were absent today, whinberry picking being at its height".
23 Awst
1898
School diary entry "More than half the girls absent this afternoon. 'Gone to the Circus' ".
 

Roedd y merched oedd i ffwrdd yn casglu llus duon bach yn fwy na thebyg yn cynorthwyo gydag incwm y teulu trwy gasglu’r llus o’r bryniau i’w gwerthu yn y farchnad leol. Roedd llawer o deuluoedd tlawd angen pob ceiniog yr oeddynt yn medru eu cael.
Mae darn yn nyddiadur Ysgol Genedlaethol Heyope o fis Mai 1889 yn darllen "Several children absent this week being in the wood picking up bark". Roedd hyn yn ddigwyddiad rheolaidd pan oedd rhisgl yn cael ei dynnu oddi ar goed oedd wedi dymchwel. Roedd yn cael ei ddefnyddio wrth roi tannin ar ledr, a byddai plant yn cael eu talu i gasglu’r rhisgl yn barod i’w gasglu gan gert.
Mae yna ragor o enghreifftiau o broblemau gyda phresenoldeb mewn ysgolion lleol ar y dudalen nesaf...

Y dwymyn goch, y pas, y ddarwden...
.

.