Tref-y-clawdd a'r cylch
Bywyd ysgol
Y dwymyn goch, y pas, y ddarwden  
  Ar wahân i’r rhesymau dros fod yn absennol sydd eisoes wedi’u nodi ar dudalennau eraill o ganlyniad i waith ar ffermydd, ac mewn ffeiriau a marchnadoedd, y rheswm pwysig arall pam oedd plant yn absennol o’r ysgol yn ystod cyfnod Fictoria oedd oherwydd salwch.
Roedd amodau byw’n wael i lawer o deuluoedd, gyda thai oer a llaith a diet gwael o ganlyniad i brinder arian. Mewn ardaloedd gwledig roedd plant yn dod i’r ysgol o ardal eang, felly os oedd gan un plentyn afiechyd heintus roedd yn gallu lledu’n gyflym o amgylch y gymuned gyfan. Cofnodwyd yn Llyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol Heyope ym mis Hydref 1893 "Within the last two days the Measles has rapidly increased, almost every family in the parish being attacked".
Mae’r enghreifftiau yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Fabanod Tref-y-clawdd...
Sick child
7 Hydref
1881
"4 children absent with whooping cough. Willie Williams also absent his sisters (3) having scarlet fever".
6 Rhagfyr
1889
"10 children have been absent this week with whooping-cough, and 7 with ringworm".
 

Mae’r ddarwden yn afiechyd annymunol iawn ar y croen sy’n achosi cylchoedd heintus iawn yng ngwalltiau plant, ac mae’n gallu lledu’n gyflym iawn i eraill.
Mae meddyginiaethau modern ac amodau byw a bwyd llawer iawn gwell yn golygu bod afiechydon megis diptheria, y dwymyn goch a theiffoid yn bethau anghyffredin iawn. Ond mae llawer o afiechydon nad ydym yn gwybod amdanynt heddiw yn achosi llawer o farwolaethau yn ystod y cyfnod yma.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Tref-y-clawdd
.

.