Tref-y-clawdd a'r cylch
Bywyd ysgol
Pan ddaeth yr arolygydd ysgol ar ymweliad  
  Roedd Arolygydd Ysgol swyddogol y llywodraeth yn ymweld â’r rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd o leiaf unwaith y flwyddyn. Roedd athrawon yn aml iawn yn pryderu am yr ymweliadau yma oherwydd roedd canlyniadau’r profion a roddwyd i’r plant yn effeithio ar faint o arian grant oedd yn cael ei roi i gynnal yr ysgol y flwyddyn nesaf.
Roedd adroddiad yr Arolygydd bob amser yn cael ei gopïo i mewn i Lyfr Cofnod yr ysgol, ac mae’r enghreifftiau yma yn rhoi syniad da i ni am ffordd yr oedd yr ysgolion cyntaf yma yn cyflawni eu gwaith. Mae’r enghraifft yma’n dod o Ysgol Genedlaethol Heyope yn 1886...
 
17 Rhagfyr
1886
School diary entry Heyope National School, Radnor.
"This School was closed at the beginning of the year for epidemic and the attendance has been irregular. Still I miss the brightness that used to be a feature here. Mr Barnes should endeavour to exercise the intelligence of the children now latent. He should also ground his children in arithmetic as they are slow in working their sums and are also inaccurate; the children being backward in Tables in the Second Standard.
 

"But very little will be done until the Infants be better taught and while doing arithmetic the use of strokes should be discouraged. The children write fairly well but Spelling is weak throughout..."

Fel y gallwch weld ar dudalennau eraill yn y wefan yma, roedd y plant yn colli llawer o ddyddiau ysgol oherwydd salwch ac epidemig o afiechydon, a sonnir am hyn yma.
Roedd ysgolion oes Fictoria yn canolbwyntio ar y tri phwnc enwog hynny darllen, ysgrifennu, ac arithmatig – gan gynnwys gwersi gwnïo a gweu i’r merched. Fel arfer symiau a sillafu oedd yn achosi’r problemau mwyaf !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Tref-y-clawdd
.

.