Heblaw am Ysgol
Ramadeg John Beddoes (a sefydlwyd yn
1565), roedd yna ysgol elusennol yn Llanandras o dan ofal Thomas
Legge, o Willey oedd gerllaw ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac ysgolion
preifat eraill ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd y mwyafrif o blant ar ddechrau teyrnasiad Fictoria yn dod o deuluoedd
tlawd a heb dderbyn unrhyw addysg
o gwbl.
Erbyn diwedd oes Fictoria, roedd
ysgolion rhad ac am ddim yn cael
eu cynnig ar draws yr ardal; ac roedd yn rhaid i bob plentyn fynd i’r
ysgol yn rhywle. Mae cofnodion ar gyfer yr ysgolion newydd hyn wedi goroesi
ac yn rhoi darlun difyr o fywyd ysgol
mewn ardal wledig yn ystod oes Fictoria.
|