Llanandras a'r cylch
Bywyd ysgol
Salwch ac afiechyd  
  Roedd oes Fictoria yn gyfnod lle’r oedd teuluoedd tlawd yn profi diffyg o ran amrywiaeth diet ac amodau gweddol sylfaenol o ran glanweithdra. Dan yr amodau hyn, roedd plant yn aml mewn perygl o ddal afiechydon a heintiau.
Un o’r pethau sy’n ymddangos yn rheolaidd yn Llyfrau Cofnod yr ysgolion yw’r sôn am wahanol fathau o salwch.
Yng ngaeaf 1881, cafwyd achosion o’r Frech Goch yn Ysgol Maesyfed - fel yn y rhan fwyaf o ysgolion eraill yr ardal.
Fel diphtheria a’r dwymyn goch, gellir trin y frech goch yn eithaf hawdd heddiw gyda chyffuriau modern ond yn ystod oes Fictoria, roedd y rhain yn afiechydon difrifol a byddai plant hyd yn oed yn gallu marw ohonynt.
 
  extract from New Radnor school records
 

Mae’r darn yma yn dod o gofnodion yr ysgol ar yr adeg honno yn darllen:
"Over 70 children away in consequence of measles, so at noon today the school was broken up for a week."

Roedd yr athrawon yn gwybod y gallai plant oedd yn dod i’r ysgol o bell ddod i gysylltiad â’r afiechyd drwy’r ysgol a’i ledaenu yn y ffordd yma. Dyma pam yr oedd ysgolion yn cael eu cau ar adegau pan fyddai nifer o achosion o afiechydon. Ar yr adeg hwn, roedd y rhan fwyaf o ysgolion ar gau am ran o bob blwyddyn oherwydd salwch.
Yn 1876, cafodd Ysgol Evancoyd ei chau am fis pan yr oedd y Brifathrawes Miss Lambert yn sâl.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanandras
.

.