Llanandras a'r cylch
Bywyd ysgol
Cosbau a disgyblaeth  
  Roedd athrawon oes Fictoria yn fwy llym nag athrawon heddiw ac yn aml byddent yn curo disgyblion er mwyn gwneud iddynt ymddwyn yn dda. Yn nyddiau cynnar yr ysgolion, roedd yr athrawon yn ei gweld hi’n anodd i gael y disgyblion i wneud yr hyn a ddisgwyliwyd ganddynt.
Daeth enghraifft gynnar o hyn o Ysgol Brydeinig Llanandras ym Mawrth, 1868 pan aeth Gweinidog y Bedyddwyr i’r ysgol i glywed y disgyblion hyn yn darllen.
Mae Llyfr Cofnod yr ysgol yn dweud bod - "..one of the boys misbehaved during his presence, and I had to punish him for it after he left; he pinched another boy while reading, and thus caused him to laugh..."
 
  School log book entry
 

Mae’r darn yn mynd ymlaen i ddweud -
"... it is the same boy who played the truant, and causes the whole of the disturbance in the school: the work being twice as easy when he is absent: I don’t like to expel him owing to his parents, who are very nice respectable people, & desire me always to do justice to the boy."

Yn ysgolion oes Fictoria, roedd y plant yn gwneud eu gwaith drafft ar lechi gydag un darn o sialc neu bensel. Roedd Pennaeth ysgol Maesyfed yn cosbi’r plant am gopïo gwaith o lechi ei gilydd.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanandras
.

.

school slate