Llanandras
a'r cylch Roedd athrawon ym mhob un o’r ysgolion
lleol yn cael problemau wrth gael y plant i ddeall yr hyn a ddisgwyliwyd
ganddynt yn yr amgylchiadau newydd hyn. Roedd y plant yn cael eu rhannu’n
Safonau neu grwpiau yn ôl eu gallu,
nid eu hoedran. Nid oedd disgybl yn gallu gadael
Safon a symud ymlaen i’r un nesaf hyd nes y byddai ef neu hi wedi pasio
profion i ddangos eu bod yn barod. Byddai’r holl weithgareddau
yma’n digwydd yn yr un ystafell ar yr un pryd, gan mai dim ond un
ystafell oedd ar gael i ddysgu’r plant yn y rhan fwyaf o ysgolion
pentref.
Bywyd ysgol
Beth
a wneir yn yr Ysgol ?
Pan sefydlwyd
rhwydwaith o ysgolion pentref ar draws
yr ardal yng nghyfnod Fictoria, nid oedd y mwyafrif o’r disgyblion cyntaf
erioed wedi bod yn yr ysgol o’r blaen. Roedd ambell un o’r plant ffodus
o bosibl wedi dysgu’r wyddor gan rywun yn y teulu oedd yn gallu darllen
neu wedi dysgu i ddarllen o bosibl yn Ysgolion
Sul y capeli neu eglwysi.
Fel arfer, byddai’r Athrawon oedd yn ddisgyblion
sef y disgyblion hyn oedd yn hyfforddi i fod yn athrawon eu hunain ac
yn derbyn cyflog bychan yn dysgu’r safonau is.