Llanwrtyd a’r Cylch
Graffiau poblogaeth
  Ffigurau cyfrifiad ar gyfer yr ardal  
 

Roedd y nifer o bobl oedd yn byw yn y rhan orllewinol yma o Sir Frycheiniog, ar y tir uchel, yn newid yn ystod oes Fictoria wrth iddynt chwilio am waith. Roedd gwybodaeth am y boblogaeth leol yn cael ei chofnodi mewn cyfrifiad oedd yn digwydd bob deng mlynedd.
Roedd dynion yn gwneud y gwaith o deithio o gwmpas yr ardal, ac yn cofnodi pwy oedd yn byw ym mha dy a’u gwaith nhw. Roedd y cofnodion hyn yn cynnwys graffau cyfrifiad.
Roedd Prydain wedi’i rhannu mewn plwyfi (gweler y map) ac mae’r ffigurau yn cofnodi faint o bobl oedd yn byw ym mhob plwyf. Dewiswch o’r rhestr isod i weld graffau’r boblogaeth yn y plwyfydd lleol yn oes Fictoria.