Powys yn yr Oes Fictoria at ddefnydd ysgolion cynradd
Prosiect Hanes Digidol Powys
         
Llanfair Caereinion
yn oes Fictoria
 
 
Llanfair a’r Cylch
 
 

Datblygodd tref farchnad fechan sirol Llanfair Caereinion, sydd yng nghanol hen sir hynafol Sir Drefaldwyn, fel man pwysig i groesi’r Afon Banw.

Roedd Llanfair erbyn oes Fictoria wedi bod yn ganolfan i’r gymuned amaethyddol ers hir gyda’i harwerthiannau da byw a neuadd farchnad. Llwyddodd y dref i oresgyn tân mawr yn y 18fed ganrif a bu llawer o waith ailadeiladu wedi hyn.

Hefyd mae’n gorwedd ar groesffordd rhai o’r ffyrdd pwysig sy’n mynd o’r arfordir i’r Amwythig a hefyd ffyrdd llai sy’n cysylltu cymunedau Sir Drefaldwyn.

 

Yn debyg iawn i’r cymunedau eraill sydd ar ein gwefan, gwelwyd newidiadau mawr yn Llanfair Caereinion a’r pentrefi cyfagos yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

Dewiswch o’r pynciau a welwch chi er mwyn cael gweld beth oedd rhai o’r newidiadau hyn:

 

Fe fyddem yn gwerthfawrogi cael adborth gan athrawon, plant ac eraill sydd â diddordeb yn ein prosiect.

Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglyn â'r safle anfonwch ebost at Gavin Hooson:

gavin@powys.gov.uk

Diolch am eich help.

 

 
 
 
 
 
   
Yn ôl i dop
Ewch i’r ddewislen lleoedd