Llanfair Caereinion
yn yr oes Fictoria
  Sgwâr y Farchnad yn yr 1880au  
 

Yn fwy na thebyg tynnwyd y ffotograff yma o Sgwâr y Farchnad yn Llanfair Caereinion tua 1885.
Roedd yr hen Neuadd Farchnad sydd yng nghanol y llun yn rhoi cysgod ar gyfert stondinau’r farchnad oedd yn gwerthu bwyd a nwyddau lleol eraill. Un ystafell fawr oedd ar y llawr uchaf a ddefnydfdiwyd ar gyfer gwahanol bethau dros y blynyddoedd, gan gynnwys ystafell ddosbarth.

 
  Market Square c1885
  Roedd yna gell fechan yn un pen ar y llawr gwaelod. Nid oedd ffenstri na golau ynddo, ac fe’i defnyddiwyd i ddal troseddwyr a arestiwyd hyd nes y gellid delio â nhw.
Tynnwyd yr hen Neuadd Farchnad i lawr ychydig flynyddoedd wedi tynnu’r llun yma, ac agorwyd siop a gwesty ar yr un safle yn 1893.
Roedd y bobl leol oedd yn teimlo’n sychedig ar yr amser y tynnwyd y llun yma yn gallu dewis rhwng tafarn y Llew Coch ar y dde (gyda’r arwydd sydd yn hongian) neu tafarn y Llew Du y tu ôl i Neuadd y Farchnad ! Banc Gogledd a De Cymru yw’r adeilad ar y chwith.
.
 
  Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion