Machynlleth - Gofalu am y tlawd 1
"Dibynnu ar y plwyf"

Gweler hefyd ein tudalennau cyffredinol ar ofalu am y Tlawd Cymorth mewn amser o galedi
Roedd bywyd beunyddiol ar gyfer y mwyafrif o bobl yn Sir Drefaldwyn hyd at yn gymharol ddiweddar yn frwydr. Fe fedrai digwyddiadau syml megis colli swydd neu bod yn rhy sâl neu’n rhy hen i weithio achosi llawer iawn o galedi. Os byddai hyn yn digwydd, roedd rhaid i’r teulu trallodus droi am gymorth at y plwyf lleol. Gan fod unrhyw gymorth a gynigiwyd yn deillio o dreth y tlodion a dalwyd gan berchnogion eiddo lleol, roedd y swyddogion plwyf yn frwd dros anfon tlodion yn ôl i’w plwyfi gwreiddiol os na ystyriwyd hwy fel trigolion lleol.
Yn 1783, canfu teulu Howell William ym mhlwyf Cemaes bod angen cymorth y tlodion arnynt. Daeth Swyddogion lleol y Plwyf a hwy o flaen y Sesiwn Chwarter ac yn unol â’r gyfraith, eu symud i Lanbrynmair, sef man geni Howell William.

Sesiynau Chwarterol Sir Drefaldwyn 1783

Archifdy Sir Powys M/Q/SO/2

  Mae’r dyfyniad hwn o Lyfr Gorchymyn y Sesiwn Chwarter yn darllen fel a ganlyn:
"Ordered that the Order of Robert Edwards Doctor in Divinity and Robert Griffith clerk two of his Majesty’s Justices of the peace for the said county for the removal of Howell William Jane his wife and Jane Margaret and Elizabeth their children from and out of the said Parish of Cemmaes to the said Parish of Llanbrynmair be and the same to hereby confirmed".
  Roedd y ddau Ynad Heddwch a orchmynodd symud y teulu tlawd yn glerigwyr o Eglwys Lloegr. Ar y pryd, roedd clerigwyr yn ran mawr o sefydliad y Sir. Ni chaiff yr hyn a ddigwyddodd i’r teulu ar ôl cyrraedd Llanbrynmair ei gofnodi yn y Llyfr Gorchymyn.
Mae 6 tudalen yn y dilyniant hwn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.