Machynlleth - Gofalu am y tlawd 3
Gweithdy Newydd ym Machynlleth

Adeiladwyd yn 1860
Daeth Undeb Machynlleth o dan bwysau gan Fwrdd Deddf y Tlodion i adeiladu Gweithdy’r Undeb. Profodd yr Undeb gwahanol anawsterau wrth geisio cael safle a’r nawdd angenrheidiol.
Llun drwy ganiatâd caredig Amgueddfa Powysland.
Ym Mawrth 1860, roedd Bwrdd y Tlodion yn ofni y byddai’r Undeb yn cael ei chwalu. Fe wnaethant bledio er mwyn cael caniatâd i barhau heb weithdy. Fodd bynnag, yn y diwedd cafodd gweithdy newydd, a welir uchod yn ffurf diweddarach Ysbyty Brenin Edward VII, ei gwblhau ac hysbysebodd yr Undeb am weithwyr. Cafodd torryn papur (islaw) a dorrwyd allan o bapur anhysbus ei ludo i fewn i’r Llyfr Cofnodion.

 Archifdy Sir Powys M/GM/M/5

  Penodwyd Mr Owen Thomas a’i wraig fel y Meistr a’r Feistres gyntaf
Mae 6 tudalen yn y dilyniant hwn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.