Machynlleth - Gofalu am y tlawd 2
Undebau Deddf y Tlodion

Am fwy o wybodaeth ar y pwnc hwn gweler ein tudalennau Deddf Newydd y Tlodion Y Driniaeth Newydd Hallt o Dlodion
Cyflwynodd Deddf Newydd y Tlodion 1834 system gwbl newydd o ofalu am y tlodion. Cafodd plwyfi eu grwpio gyda’i gilydd i ddarparu gofal trwy Undebau Deddf y Tlodion lleol. Ffurfiwyd Undeb Machynlleth yn y modd hwn a chafodd ei reoli gan fwrdd Gwarcheidwaid gyda chynrychiolwyr o blwyfi’r Undeb.
Roedd gofyn i’r cyrff newydd garcharu pobl tlawd a oedd yn hawlio cymorth yn y gweithdai mawr newydd. Fel Undeb Rhaeadr, roedd Undeb Machynlleth yn araf yn ymrwymo i godi adeilad o’r fath gan ddewis talu cymorth allan o gronfeydd yr Undeb a chaniatáu i dlodion aros yn eu cartrefi.
Archifdy Sir Powys M/GMQ/M/1
  Mae’r ddelwedd uchod yn ddyfyniad allan o Lyfr Cofnodion Bwrdd Gwarcheidwaid Machynlleth. Ceir cofnod yma o gymorth a roddwyd i dlodion Plwyf Penegoes yn 1837 ac mae’n darllen fel a ganlyn:-
  Mary James Wo. [widow] 78 gets 1 / - [1 shilling] weekly applies for 10 / - rent 10 / - casual allowed
Elizabeth Jones Widow 66 gets 8d?
[8 pence?] weekly - applies for 10 / - rent 10 / - casual allowed
John Wood 74 wife 62 and a son 28 who is an idiot - gets 2 / - weekly - applies for 20 / - rent 15 / - casual allowed
David Thomas widower 81 - gets 2/- weekly - applies for 10 / - rent 10 / - casual allowed
Jane Edwards widow 55 and 2 children - gets 1 /3
[1 shilling & 3 pence] weekly - applies for 15 / - rent 15 / - casual allowed
Mae 6 tudalen yn y dilyniant hwn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.