Machynlleth - Gofalu am y tlawd 5
Marwolaeth yn y Gweithdy

Cofrestr Marwolaeth ar gyfer 1865
Fel pob gweithdy arall ar draws y wlad, roedd gofyn i weithdy Machynlleth gadw cofnodion a chyfrifon manwl a oedd yn cael eu harchwilio’n gyson.
Er nad oes llawer o’r cofnodion hyn wedi goroesi, mae Cofrestr Marwolaeth y gweithdy yng ngofal Archifdai Sir Powys. Mae cynnwys y gofrestr yn adlewyrchiad trist o fywydau llym aelodau tlotaf y gymdeithas ar ganol oes Fictoria.
Mae’r dyfyniad hwn yn cofnodi manylion bychain am y rheini a fu farw yn y gweithdy yn 1865.
Archifdy Sir Powys M/GM/X2
Mae’r holl gofnodion wedi deillio o’r rhannau hynny o gymdeithas nad oedd yn medru gwrthsefyll afiechyd a deiet gwael. Mae marwolaeth Richard ac Ann Roberts a oedd yn un niwrnod oed a fwyaf tebyg yn efeilliaid, yn hynod o drist. Roedd eu mam nad yw wedi cael ei henwi yn dod o Ddarowen.
Mae 6 tudalen yn y dilyniant hwn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.