Machynlleth - Gofalu am y tlawd 6
Pethau Amheuthun yn y Gweithdy

Pethau amheuthun ar gyfer y tlawd
Dros y blynyddoedd, gwelwyd yr agwedd tuag at statws y tlawd yn meddalu a thwf mewn adnabyddiaeth nad oedd bai ar y tlodion eu hunain am fethu cynnal eu hunain a’u teuluoedd.
  Mae dau gofnod yn Llyfr Cofnodion Bwrdd Gwarcheidwaid Machynlleth yn 1900 yn adlewyrchu hyn. Mae’r cofnod cyntaf yn brawf o ddymuniad gwirioneddol ymysg aelodau mwyaf breintiedig y gymdeithas i gynnig cysuron i bobl llai ffodus. 
 Archifdy Sir Powys M/GM/M12  
  "Resolved that the thanks of the Board be tendered to the Most Honourable the Marchioness (D) of Londonderry and Mr & Mrs Edwards, Rock Ferry, for their treats to the inmates during the last month" 
Mae’r ail ddyfyniad yn cyfeirio at ‘adloniant’ ar gyfer y tlodion a oedd yn syniad a oedd yn ôl pob tebyg yn estron i grewyr Undeb Deddfau’r Tlodion yn y 1830au.
Archifdy Sir Powys M/GM/M12
  "resolved that the thanks of the Board be given to the Ladies mentioned in the Master’s Report for their magic Lantern Entertainment given to the Inmates on the 8th inst."
Mae 6 tudalen yn y dilyniant hwn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.