Machynlleth - Gofalu am y tlawd 4
Plentyn wedi ei adael yn y gweithdy

Y realiti llym
Ceir cyfeiriad achlysurol ymysg Llyfrau Cofnodion llychlyd Bwrdd y Gwarcheidwaid sy’n ein hatoffa o’r realiti llym y medrai’r gweithdy ei gynrychioli. Hyd yn oed mewn cyfundrefn a oedd yn gwahanu dynion o’u gwragedd a’u plant yn reolaidd, mae yna achosion amlwg sy’n mynnu ein sylw.
Archifdy Sir Powys M/GM/M5
Mae’r dyfyniad uchod o 1862 yn ymwneud â Jane Pryce a oedd ond yn ddwyflwydd oed ac yn darllen fel a ganlyn:-
"The clerk was directed to write to the Poor Law Board to enquire whether they would sanction the allowance of 1 / - weekly for the maintenance of the infant child out of the workhouse, its mother having absconded, considering the trouble to which the Matron might be subjected in the event of there being no inmate capable of taking proper care of the child."
Mae 6 tudalen yn y dilyniant hwn. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.