Rhaeadr
Graffiau poblogaeth
  Ffigurau cyfrifiad ar gyfer yr ardal  
  Newidiodd poblogaeth y rhan yma o Sir Faesyfed ae ogledd o Sir Brycheiniog trwy gydol cyfnod Fictoria wrth i ddiwydiannau wneud yn dda neu ddioddef, ac o ganlyniad roedd yn rhaid i bobl symud o gwmpas i chwilio am waith.
Mae gwybodaeth ynglyn â’r boblogaeth leol wedi’i gofnodi yn y cyfrifiad, a gynhelir bob deng mlynedd. Cyflogwyd dynion i deithio o amgylch yr ardal yn cofnodi pwy oedd yn byw ym mha dy a beth oedd eu gwaith.
Mae’r ffigurau poblogaeth yn dod o’r cofnodion yma.
 
  map of parishes Drawing of census man
Y dyn o gyfrifiad yn galw
 

Rhannwyd Prydain yn blwyfi (fel y dangosir ar y map) ac mae’r ffigurau yn cofnodi faint o bobl oedd yn byw yn y plwyf.
Fel arfer y plwyf oedd y pentref o amgylch eglwys y plwyf a’r ardal oddi amgylch iddo. Roedd sawl cymuned fechan yn rhan o rai plwyfi.
Dewiswch o’r rhestr a welwch chi i weld graffiau poblogaeth ar gyfer rhai o’r llefydd lleol yng nghyfnod Fictoria.

 
   
   
   
 

Ewch i ddewislen Rhaeadr