Y Drenewydd
Bywyd ysgol
  Dyddiau cynnar yr ysgolion lleol  
  Mae’r tudalennau yma’n helpu i ddangos sut beth oedd hi i fod yn yr ysgol yn ystod blynyddoedd olaf teyrnasiad hir Fictoria.  
 

Maent yn defnyddio cofnodion o Lyfrau Log Ysgolion neu ddyddiaduron ysgolion lleol. Yn aml, gall y rhain ddweud llawer wrthym am fywyd yng nghartrefi’r ardal yn ystod y cyfnod hwnnw yn ogystal a bywyd yn yr ysgol.
Doedd y rhan fwyaf o blant ddim yn mynd i’r ysgol ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Byddai plant perchnogion tir yn cael eu haddysgu yn eu cartrefi, a byddai rhai o fasnachwyr y cylch yn anfon eu plant i ysgolion preifat.

School children
 

Roedd plant y tlodion yn gorfod mynd i weithio cyn gynted ag y byddent yn ddigon hen i ennill cyflog i’r teulu, a byddent yn colli gwersi’n aml er mwyn helpu gyda gwaith fferm neu unrhyw waith arall i’w rhieni.
Erbyn diwedd cyfnod Fictoria darparwyd ysgolion rhad ac am ddim ac roedd yn orfodol i bob plentyn fynd i’r ysgol.

 
 
Mae’r presenoldeb i lawr eleni
 
 
Angen mwy o ddisgyblaeth
 
 
Rhy oer i ddal pin ysgrifennu !
 
 
Wedi mynd i weld y sioe gafalri
 
 
O’r ysgol i’r ffatri
 
 

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd