Y Drenewydd
Bywyd ysgol
  Anfonwch am y dril-ringyll !  
 

Y pynciau pwysicaf a ddysgwyd yn ysgolion cynradd Oes Fictoria oedd yr hen ffefrynnau, sef, darllen, ysgrifennu a rhifyddeg. Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion roedd daearyddiaeth a hanes ar yr amserlen hefyd, yn ogystal ag arlunio i’r bechgyn a gwau a gwnïo i’r merched.
Ond roedd llawer o ysgolion yn ffafrio martsio, paredio a dril milwrol yn hytrach nag ymarfer corff, am ei fod yn cyfuno ymarfer corff â disgyblaeth lem.
Dyma ran o adroddiad yr Arolygydd Ysgolion ar Ysgol Genedlaethol Y Drenewydd yn 1873...

Hydref 10fed - "The children passed a good examination except that the Writing of the first Standard and the Writing and Arithmetic of the Second were very indifferent"...

Schoolboys marching.
Hydref 10fed
1873
School diary entry "...The extra subjects had been well taught. The discipline was not perfect.
Singing from notes should be taught and Drill should be taught by a Drill Sergeant".
 

Roedd adroddiadau tebyg o Lyfr Log Ysgol Llanllwchaearn yn dweud
Tachwedd 23ain 1874 - "Military drill is much needed as the children are awkward and restless"
Tachwedd 8fed 1875 - "Military drill should be attempted if possible. It would be found to improve the general discipline".

Efallai y byddai Dril-ringyll wedi gallu setlo Rowland Morris, bachgen arswydus o ddrwg yn Ysgol Genedlaethol Y Drenewydd yn 1895 – nes iddo gael ei daflu o’r ysgol!

 

Yn ôl i ddewislen ysgolion Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd