Y Drenewydd
Bywyd ysgol
  Cyflog da am waith plant
Geirfa
 

Roedd llawer o rieni yn ei chael yn anodd i ddod o hyd i’r swm bychan o arian roedd yn rhaid ei dalu i’r ysgolion cynnar, Galwyd yr arian yn ‘geiniogau ysgol’
Yn nyddiadur Ysgol Genedlaethol Y Drenewydd yn Rhagfyr 1868 nodwyd "Sent two boys home for their school fees. They leave the school rather than pay".
Roedd ffioedd Ysgol Brydeinig Penygloddfa yn Y Drenewydd yn ystod yr un flwyddyn wedi’u gosod yn Llyfr Log yr ysgol...

Heretofore - o'r blaen
 
 
Medi 30ain
1868
School diary entry "Weekly payments by children -
....154 at 2d. [2 ceiniog]
.......18 at 3d.
Difference determined by the means of the parents.
The parents have no other expense to provide for".
llun gan
Rob Davies

Roedd yn beth arferol i ffioedd ysgol fod yn uwch ar gyfer plant ffermwyr, masnachwyr, a chrefftwyr na’r rhai ar gyfer plant labrwyr ac eraill oedd yn ennill llawer llai. Roedd "means of the parents" yn golygu faint fedrent fforddio’i dalu.
Mae’r cofnod hwn o Lyfr Log o’r un ysgol yn 1867 yn dangos fod plant llawer o deuluoedd tlawd yn gorfod gadael yr ysgol cyn gynted â phosibl er mwyn ennill cyflog.

Young farmboy
Mai 17eg
1867
School diary entry "The average attendance continues low, there are good wages to be obtained for children's labour both in the Factory and on the Farm, which causes many to leave at an earlier age than heretofore".
 

Yn ystod y cyfnod hwn byddai swyddi gwaith ffatri yn Y Drenewydd yn y melinau gwlân gan fwyaf gan eu bod yn dal i ffynnu ac yn cyflogi nifer fawr o weithwyr. Daeth diwedd ar y diwydiant lleol, mwy neu lai, erbyn diwedd yr 19fed ganrif o achos y gystadleuaeth a ddaeth oddi wrth nwyddau gwlân rhatach o’r ffatrïoedd yng ngogledd Lloegr.

 

Yn ôl i ddewislen ysgolion Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd