Y Drenewydd
Bywyd ysgol
  Roedd y desgiau wedi’u gorchuddio gan eira  
 

Roedd pethau’n gallu bod yn galed iawn ar athrawon a phlant mewn ysgolion Fictoraidd. Mae llawer o’r Llyfrau Log yn sôn am ystafelloedd dosbarth yn rhewi yn y gaeaf, yn enwedig mewn ysgolion anghysbell i fyny’n uchel yn y mynyddoedd.
Ond gallai fod yr un mor galed yn y trefi, fel y gwelwn yng nghofnodion Ysgol Genedlaethol Y Drenewydd yn ystod gaeaf 1881...

 
Ionawr 21ain
1881
School diary entry Ionawr 21ain -
"Weather intensely cold.
In spite of having fires
in every room it was
too cold for children
to work ..."
llun gan
Rob Davies

"... On Wednesday morning the desks were covered with snow which had been driven in through the roof and as the school was totally unfit for the school children..."

Union wythnos yn ddiweddarach doedd pethau fawr gwell yn yr ysgol...
Ionawr 28ain - "Another bitterly cold week though a thaw has set in...

Snow covered desks
Ionawr 28ain
1881
School diary entry "Very little work done as the children are incapable of holding the pen to write in their benumbed fingers and the ink is frozen into a solid mass..."
 

Yn Llyfr Log Ysgol Betws Cedewain, yn ystod gaeaf 1895, nodwyd hyn: "Several of the children suffering from chilblains and unable to put their boots on".
Yn aml byddai’n rhaid i’r plant gerdded milltiroedd i’r ysgol ar hyd llwybrau gwledig, garw, ac roedd esgidiau cryfion yn angenrheidiol. Os na allent wisgo’u hesgidiau ni fedrent fynd i’r ysgol.
Mae pethau wedi newid!

 

Yn ôl i ddewislen ysgolion Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd