Y Drenewydd
Bywyd ysgol
  Pan fo’r cafalri’n dod i’r dref
Geirfa
 

Mae bron pob un o Lyfrau Log swyddogol yr ysgolion Fictoraidd yn pwysleisio pa mor bwysig oedd presenoldeb rheolaidd, ac roedd canran presenoldeb i’w gweld yn rheolaidd.
Roedd llawer o resymau dros absenoldeb plant, gan gynnwys pethau roedd yn rhaid iddynt eu gwneud i helpu gyda’r gwaith tymhorol ar y ffermydd. Roedd rhai yn absennol am fod pethau mwy cyffrous yn digwydd yn yr ardal, fel mae’r enghraifft hon yn dangos yn Ysgol Brydeinig Penygloddfa yn 1863...

Diminution - lleihad
 
 
Chwefror 18fed
1863
School diary entry
  Chwefror 18fed - "Many children absent from school in the morning owing to a fire in the town".
Denwyd plant o Ysgol Genedlaethol Llanllwchaearn oddi wrth eu gwersi hefyd yn 1871...
 
Hydref 2il
1871
School diary entry
  Hydref 2il - "There has been a diminution in the average attendance this week, in consequence of the presence of the yeomanry cavalry in the town".
Golygai hyn fod llawer o blant wedi aros gartref i wylio’r milwyr ar geffylau yn gorymdeithio yn eu lifrai crand.
Cynhaliwyd ffeiriau’n rheolaidd yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Roedd y rhain yn atyniad mawr, fel y gwelir mewn nodyn nodweddiadol o Ysgol Brydeinig Mochdre yn 1899...
Yeomanry cavalry
Mawrth 28ain
1899
School diary entry
 

Mawrth 28ain - "A large Fair held in Newtown on Tuesday made it impossible to keep school, for the children were nearly all there".

Roedd nifer o farchnadoedd anifeiliaid rheolaidd mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys ffeiriau gwartheg, ceffylau a dofednod. Yn Ysgol Genedlaethol Y Drenewydd ym Medi 1864 nodwyd "Attendance below average - Newtown Pig Fair". Mae’n amlwg fod moch yn fwy deniadol na darllen, ysgrifennu a rhifyddeg!

 

Yn ôl i ddewislen ysgolion Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd