Y Drenewydd
Bywyd ysgol
  Rhestr o broblemau ym Mhenygloddfa  
 

Roedd cael y plant i fynychu’r gwersi’n rheolaidd yn broblem gyson i’r ysgolion cynnar. Yn 1867 ysgrifennodd prifathro Ysgol Brydeinig Penygloddfa, Y Drenewydd, yn y Llyfr Log swyddogol y pum prif reswm am y diffyg presenoldeb yn ei ysgol yn ystod y flwyddyn honno...

 
1af Hydref
1867
School diary entry 1af - "A loss of P.Teachers [Pupil Teachers], those who left having been much liked by the Scholars".
2 - "A change of Teachers at the National School, and strenuous efforts made to secure an increased attendance there".
3 - "Higher fees being charged in this, than at either of the Church Schools".
4 - "The prevalence of hooping cough during a part of the winter, and the spring months".
5 - "An increased demand for juvenile labour in the factories".
 

Defnyddiwyd "Disgybl-athro" yn aml mewn ysgolion Fictoraidd. Cawsent eu dewis o blith y plant hynaf, a thalwyd swm bychan o arian i rai ohonynt am helpu i ddysgu’r rhai ieuengaf. Mae’n rhaid fod y disgybl-athrawon yn yr ysgol hon yn arbennig o dda, oherwydd byddai rhai Llyfrau Log yn dangos fod llawer ohonynt yn anobeithiol.
Roedd "Ysgolion Prydeinig" ( anghydffurfiol) yn cystadlu gyda’r "Ysgolion Cenedlaethol" (ysgolion eglwys) i addysgu’r plant lleol, ac yn yr achos hwn roedd y ddwy ysgol eglwys leol yn codi llai o dâl am wersi.
Mae’r rhestr yn dangos hefyd fod y melinau gwlân a’r ffatrioedd yn dal i wneud yn dda yn 1867, ac roeddynt yn awyddus i gyflogi gweithwyr ifanc – rhad!

 

Yn ôl i ddewislen ysgolion Y Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd